Follow us on Twitter

y tîm

Rydym yn falch iawn o’r tîm sydd gennym yma yn Calan.

 

Mae ein tîm cyfieithu a phrawfddarllen yn cynnwys 4 aelod cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (sef y lefel aelodaeth uchaf, a gyflawnir trwy arholiad). Mae gan bob aelod o’r staff radd gyntaf berthnasol fel cymhwyster gofynnol.

 

Mae tiwtoriaid Cymraeg Calan yn staff addysgu proffesiynol, ond hefyd yn gyfeillgar ac amyneddgar, ac yn ymateb i anghenion y dysgwr bob amser.

 

Mae’r staff i gyd yn ymroddedig i gyflawni’r safon uchaf bosibl yn eu gwaith, ac maent bob amser yn cadw at ein systemau sicrhau ansawdd.