Follow us on Twitter

prawfddarllen

Rydym yn darparu gwasanaeth prawfddarllen cynhwysfawr ac arbenigol, dan ofal tîm ymroddedig o uwch-gyfieithwyr. Gall pob un ohonynt weithio’n gyflym ac effeithiol o fewn amserlenni caeth, gan gynnal ein safonau uchel ac arbed arian i’r cleient ar yr un pryd.

 

Gallwn ddarllen proflenni a gyfieithwyd yn wreiddiol gennym ni, efallai oherwydd i’r testun gael ei ddiwygio neu o bosibl o ganlyniad i newid y fformat.

 

Rydym hefyd yn fwy na pharod i brawfddarllen gwaith a gwblhawyd gan gyfieithwyr eraill, er mwyn sicrhau bod ansawdd eich cynnyrch terfynol mor uchel ag y bo modd.