cyfieithu
Gallwn gyfieithu dogfennau o’r Saesneg i’r Gymraeg ac i’r gwrthwyneb. Rydym yn cyfieithu deunydd ar gyfer y we, datganiadau i’r wasg, dogfennau ymgynghori, adroddiadau, deunyddiau hysbysebu, gohebiaeth, llenyddiaeth ac ati. Popeth dan haul!
Mae ein meysydd arbenigol yn cynnwys meddygaeth, addysg, yr amgylchedd, gwleidyddiaeth, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a thestunau cyfreithiol ac ariannol.
Mae gennym bolisi sicrhau ansawdd trylwyr sy'n golygu nad oes yr un darn o waith yn gadael y swyddfa heb i ddau aelod o'r tîm ei ddarllen yn fanwl - y cyfieithydd ei hun ac uwch-gyfieithydd neu un o'r partneriaid.
Rydym yn defnyddio cymorth ysgrifenedig ac electronig cynhwysfawr er mwyn sicrhau cysondeb, gan gynnwys datblygu terminoleg ar gyfer y cwmni ac ar gyfer cleientiaid unigol. Y nod yw cynhyrchu cyfieithiadau perthnasol a chywir o ansawdd uchel. Rydym yn bodloni pob amserlen y cytunwyd arni, waeth pa mor dynn.
Rydym bob amser ar gael i roi cymorth a chyngor, ac rydym wedi hen arfer ag ymdrin â cheisiadau byr rybudd o ddydd i ddydd. Gallwn hefyd eich cynghori ynglŷn â llunio Polisi Iaith yn ogystal â chyfieithu eich polisi gwreiddiol chi.
Mae ein prisiau am gyfieithu yn gystadleuol iawn ac ni cheir unrhyw gostau cudd. Y pris a gytunwyd + TAW yw’r pris y byddwch yn ei dalu.
Cynigir gostyngiadau ar gyfer gwaith rheolaidd, dan gontract neu fel arall, a byddem yn fwy na pharod i roi dyfynbris cystadleuol i chi ar sail enghraifft o ddogfen a syniad o nifer terfynol y geiriau. Felly peidiwch ag oedi - cysylltwch â ni heddiw!
