addysgu
Yma yn Calan rydym ni'n cynnig gwersi Cymraeg ar bob lefel, o ddechreuwyr pur i siaradwyr cymwys sydd am wella eu sgiliau neu fagu hyder wrth eu defnyddio. Rydym yn teilwra ein cyrsiau at anghenion unigol ac yn adlewyrchu terminoleg sy'n benodol i'ch gweithle.
Rydym wedi datblygu ein system arbennig ein hunain gyda’r nod o helpu’r dysgwr i wella’n gyflym. Rhoddir y prif bwyslais ar ymarferion llafar gan ddefnyddio dulliau sydd wedi bod yn llwyddiannus i ni dros y blynyddoedd.
Gallwn ddarparu gwersi yn eich gweithle, neu dewch i fwynhau'r amgylchedd dysgu dymunol yn ein safle yn y Bont-faen. Pa un a ydych yn dymuno cael gwersi yn unigol neu mewn grŵp, bydd ein tiwtoriaid cymwys ac amyneddgar yn eich helpu i ymlacio, gan roi hwb i'ch hyder a chaniatáu i chi wireddu eich potensial.
Cysylltwch â ni i holi sut y gallwn eich helpu i gynllunio eich rhaglen o wersi Cymraeg. Cynigir cyngor ac asesiad yn rhad ac am ddim.

