gwasanaethau
Ansawdd yw ein harwyddair.
Gwerth am arian yw ein haddewid.
Mae Calan yn darparu'r gwasanaethau canlynol:
Cyfieithu
Mae cyfieithu i'r Gymraeg yn grefft arbennig sy'n gofyn am sgiliau o'r radd flaenaf. Mae'r sgiliau hyn ar gael i chi yn Calan. Pam aros? Cysylltwch â ni nawr!
Prawfddarllen
Mae prawfddarllen yn grefft ynddi ei hun. Mae llygaid craff a phrofiad y prawfddarllenwr yn hanfodol er mwyn gofalu bod pob cyfieithiad yn gywir ac yn darllen yn rhwydd.
Addysgu
Mae ein tîm addysgu ymroddedig a hynod brofiadol wrth law i sicrhau bod dysgwyr ar bob lefel yn datblygu'n gyflym.
