amdanom ni

Mae Calan yn wasanaeth iaith sydd wedi’i sefydlu ers nifer o flynyddoedd. Mae wedi’i leoli yn y Bont-faen ger Caerdydd, ac yn darparu gwasanaethau cyfieithu, prawfddarllen ac addysgu o'r radd flaenaf i amrywiaeth eang o gleientiaid.

 

Rydym yn gweithio’n rheolaidd i asiantaethau ac adrannau llywodraeth ganolog, ddatganoledig a lleol, yn ogystal ag i unigolion, cwmnïau a sefydliadau anllywodraethol. 

 

Llwyddodd y cwmni i fod ymhlith y rhai cyntaf i sicrhau statws Aelod Corfforaethol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

 

Mae gennym hefyd dîm ymroddedig sydd â blynyddoedd o brofiad o addysgu'r Gymraeg, a chafwyd llawer o lwyddiant yn y maes.