|
|||||
|
|
|||||
![]()
|
![]()
|
||||
| Gwasanaethau | |||||
|
Gwasanaeth Iaith Calan Tŷ Calan 62A Stryd Fawr Y Bont-faen Bro Morgannwg CF71 7AH 01446 771345 Fersiwn i'w brintio ![]()
|
Cyfieithu Ysgrifenedig Mae CALAN yn cynnig cyfieithu ysgrifenedig o'r safon uchaf am brisiau rhesymol. Boed chi'n un o'n cleientiau lleol (yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg) neu genedlaethol (yn cynnwys Yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth) bydd CALAN yn cyrraedd eich safonau ac yn cwblhau gwaith mewn da bryd. Llythyrau byr, posteri, dogfennau technegol manwl neu gyfrolau llenyddol - ymdrinnir â phob un yn effeithiol ac effeithlon gyda'r parch mwyaf at arddull a naws y gwreiddiol. Derbynnir defnydd drwy'r post, ffacs neu e-bost. Cyfieithu ar y pryd Ble bynnag a phryd bynnag yr ydych yn cynnal eich cyfarfod gall CALAN fod yno i gynnig cyfieithu ar y pryd o'r ansawdd uchaf. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Dysgu Iaith Mae gan CALAN bersonél profiadol iawn ym maes dysgu iaith, boed yn ddysgu un-i-un neu mewn grwpiau bychan. Rydym yn defnyddio technegau arloesol CALINGO, a gallwn gynnig unrhyw lefel o ddysgu sydd ei angen - o sesiynau ar gyfer dysgwyr sylfaenol hyd at seminarau uwch ar gyfer gloywi iaith a siarad cyhoeddus. Gellir teilwra cyrsiau ar gyfer eich anghenion unigol. |
||||